Newyddion a Canlyniadau

NEA Cymru

Y Gweinidog yn croesawu canllaw newydd ar fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru

Mae canllaw newydd wedi’i gynhyrchu i helpu awdurdodau lleol a chyrff eraill yng Nghymru yn y frwydr yn erbyn tlodi tanwydd. Mae ‘Curo’r Oerni’ a gyhoeddwyd gan NEA Cymru (Gweithredu Ynni Cenedlaethol) yn dwy ynghyd brofiadau’r 22 awdurdod lleol a chyrff sydd yn bartneriaid i ddarparu canllaw i’r hyn sydd yn gweithio orau wrth fynd i’r afael thlodi tanwydd. Mae’r canllaw, sydd wedi’i gyllido gan SWALEC a Llywodraeth y Cynulliad yn darparu enghreifftiau o sut y mae cymunedau’n cynorthwyo i frwydro yn erbyn tlodi tanwydd yn lleol fel y gall cyrff lleol sydd yn gweithio mewn ardaloedd eraill eu hefelychu a dysgu oddi wrth brosiectau llwyddiannus a helpu rhagor o bobl. Dangosir effeithiau’r prosiectau hyn gyda dyfyniadau real ac enghreifftiau gan y rhai sydd yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd yn lleol.

Bydd ‘Curo’r Oerni’ ar gael i bob awdurdod lleol a chyrff eraill yng Nghymru ac fe’i defnyddir i lywio’r Cynlluniau Gweithredu Cynhesrwydd Fforddiadwy ac i helpu awdurdodau lleol a’r cyrff sydd yn bartneriaid iddynt i adnabod a helpu cartrefi sydd yn dioddef tlodi tanwydd. Cliciwch yma

Tlodi tanwydd a Llywodraeth Leol

Dydd Iau 2 Hydref 2008 Y Deml Heddwch, Caerdydd

Y rôl y mae llywodraeth leol yn ei chwarae yn y frwydr yn erbyn tlodi

tanwydd 

Mae cynnydd diweddar mewn prisiau ynni, ynghyd ag incwm is na’r cyfartaledd a thai gydag insiwleiddio gwael wedi golygu bod y nifer o gartrefi yng Nghymru sydd yn dioddef tlodi tanwydd wedi mwy na dyblu yn y blynyddoedd diweddar. Gyda chynnydd mewn prisiau ynni wedi’i ragweld mae angen brys am weithredu i fynd i’r afael â’r broblem ddifrifol hon.  
 
Mae llywodraeth leol a rhan ddeiliaid lleol yn chwarae rhan hanfodol mewn helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Mae Cynghorau yn cyflwyno amrediad eang o bolisïau a gwasanaethau sydd yn gysylltiedig gyda thlodi tanwydd yn cynnwys datblygu cynaliadwy, tai, effeithlonrwydd ynni, yr amgylchedd, gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd. 
 
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gweithio’n agos gyda Gweithredu Ynni Cenedlaethol Cymru i ddatblygu Cynlluniau Cynhesrwydd Fforddiadwy i helpu i yrru gweithredu ar lefel leol. Ym mis Rhagfyr 2006 cynhaliodd NEA Cymru gynhadledd oedd yn helpu i lywio Curo’r Oerni: Canllaw i Weithredu Lleol. Mae’r canllaw yn cynnwys syniadau ac enghreifftiau o ymarfer gorau a gasglwyd yn y digwyddiad. 
 
Bydd y gweithdy hwn yn darparu llwyfan i drafod y rôl y mae llywodraeth leol yn ei chwarae
mewn mynd i’r afael â thlodi tanwydd a bydd yn cymryd i ystyriaeth y farchnad ynni gyfredol,
adolygiad o’r Ddeddf Cadwraeth Ynni Cartref, cyflwyniad Byrddau Gwasanaeth Lleol a sut y
gellir llunio strategaethau a chynlluniau allweddol i helpu i ddarganfod atebion lleol i dlodi
tanwydd. Bydd canlyniadau’r trafodaethau yn bwydo i adolygiad y Gweinidog o’r
Strategaeth Tlodi Tanwydd a datblygiad Cynllun Effeithlonrwydd ac Arbed Ynni Llywodraeth y Cynulliad.
 
Byddwn hefyd yn rhannu gyda rhan ddeiliaid ein prosiect Arweinyddiaeth Cymuned newydd a ddatblygwyd gyda chefnogaeth ariannol gan SWALEC ac arweiniad gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae’r prosiect hwn y cyntaf o’i fath yng Nghymru a’r nod yw gweithio gyda dau Bwyllgor Craffu i weithredu adolygiad craffu ar dlodi tanwydd. Mae Pwyllgorau Craffu yn darparu cyfle ardderchog i sicrhau bod y gweithrediadau sydd yn gynwysiedig yng Nghynlluniau Gweithredu Cynhesrwydd Fforddiadwy Awdurdodau Lleol yn cael eu gweithredu a bod ymarfer da yn cael ei ddatblygu.

Canlyniadau Disgwyliedig

  • Trafod gyrrwyr a rhwystrau polisi  

  • Amlygu atebion arloesol a nodi adnoddau 

  • Darganfod rhagor am y prosiect Arweinyddiaeth Cymunedol newydd sy’n cael ei
    ddatblygu yng Nghymru  

Rhaglen Mae lleoedd yn gyfyngedig felly anfonwch eich ffurflen wedi chwblhau i
tracy.norris@nea.org.uk erbyn dydd Mercher 17 Medi.  

Wyneb newydd yn NEA

Mae Helen Roach wedi ymuno ag NEA Cymru yn ddiweddar yn y swydd newydd o Swyddog Datblygu. Cyn hyn bu’n gweithio fel Cydlynydd Cenedlaethol i ymgyrch Llywodraeth y Cynulliad, Cadw’n Iach y Gaeaf Hwn, wedi’i leoli yn Cyngor yr Henoed..

Dywedodd Helen Roach, “Tra’n cydlynu’r ymgyrch Cadw’n Iach y Gaeaf Hwn, dysgais am effaith cartrefi wedi’u gwresogi’n wael ar fywydau pobl fregus, ac mae hyn wedi tanio fy mrwdfrydedd dros y pwnc ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio fel rhan o NEA Cymru i helpu a herio’r llywodraeth i gwrdd â’i dargedau i gael gwared o dlodi tanwydd.”

Bydd meysydd gwaith allweddol Helen gyda NEA Cymru yn cynnwys gwaith polisi, datblygu prosiectau ac ymchwilio, ymgyrchu a chefnogi cyrff cyhoeddus a chynrychiolaeth y sector gwirfoddol yng Nghymru.  

Bydd Helen wedi’i lleol yn y Deml Heddwch yn Nghaerdydd a gellir cysylltu â hi ar Helen.roach@nea.org.uk neu 029 2064 4520.

Mae’n ymuno â’r Gyfarwyddwraig Nuria Zolle a’r Swyddog Hyfforddi a Datblygu Jane Edgington yn NEA Cymru.

Ymateb i Ymgynghoriadau

1 Ymateb i Ymgynghoriad Cymunedau Nesaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru

2 Ymateb i ymchwiliad Is-bwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad i dlodi ac amddifadedd yng nghefn gwlad Cymru

3 Archwiliad Marchnadoedd Cyflenwi Ynni – Cymru

4 Ôl Troed Ecolegol Cymru

5 Map Llwybr Ynni Adnewyddol i Gymru 

6. Cyflwyniad i Gynllun Iechyd Gwledig Cymru

2008 Cynllun Gwobrwyo Teimlo’r Gwres

Mae mynd i’r afael â thlodi tanwydd yn hanfodol wrth i brisiau ynni godi

Mae helpu pobl i dalu eu biliau tanwydd yn wyneb cynnydd mewn prisiau ynni yn hanfodol meddai Jane Davidson y Gweinidog Amgylchedd, Cynaliadwyaeth a Thai wrth gynhadledd a drefnwyd gan elusen tlodi tanwydd amlwg.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad ei bod yn benderfynol i wneud popeth y gallai i helpu i wneud tanwydd yn fwy fforddiadwy i’r rhai sydd yn ei chael yn fwyaf anodd i dalu biliau tanwydd cynyddol.

Dywedodd Jane Davidson: “Rwyf yn hapus iawn i gefnogi’r Gwobrau Teimlo’r Gwres. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn benderfynol o wneud popeth y gallwn i’w gwneud yn fwy fforddiadwy i bobl fregus ar incwm isel i gynhesu eu cartrefi yng Nghymru. Mae angen i ni weithio gyda phartneriaid i yrru hyn ymlaen ac mae cydnabod ymarfer da yn bwysig iawn.”

Noddir y cynllun gwobr gan SWALEC ac mae’n cael ei redeg gan yr elusen tlodi tanwydd amlwg yng Nghymru, NEA Cymru a gefnogir gan Lywodraeth y Cynulliad.

Dilynnwch y linc yma i'r enillwyr y gwobrau

Dywedodd Nuria Zolle, Cyfarwyddwraig NEA Cymru: “Mae tlodi tanwydd yn y DU, yn cynnwys Cymru, wedi cynyddu’n fawr dros y blynyddoedd diwethaf, oherwydd yn bennaf y cynnydd mewn prisiau tanwydd. Mae angen ymrwymiad gan y Llywodraeth, gweithgarwch gan gyflenwyr ynni, ymgyrchu gan elusennau ac arloesi gan asiantaethau i newid y cynnydd hwn ac mae gennym enghreifftiau ardderchog o wahanol fentrau i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn y cynllun gwobr hwn.

“Bydd y cyllido ychwanegol yn cefnogi gweithredu i adeiladu ar waith sydd eisoes yn bodoli a buddsoddi mewn atebion arloesol sydd yn helpu i fynd i’r afael â’r materion sydd bwysicaf i’w cymunedau. Mae asiantaethau lleol ar y blaen gyda’r gwaith o ddarparu cynhesrwydd fforddiadwy i gartrefi bregus ac mae’r cynllun gwobr hwn yn helpu’r cyrff hynny. Rydym yn ddiolchgar i SWALEC a Llywodraeth y Cynulliad am gefnogi’r cynllun gwobr hwn a gobeithio y bydd yn ein helpu i gasglu tystiolaeth am y math o gyllido sydd ei angen yng Nghymru.”

Dywedodd Andrew Lloyd, rheolwr Prosiect Ynni Effeithlonrwydd SWALEC: “Rydym yn falch iawn o allu cefnogi NEA gyda’i fforwm a’r cynllun gwobr Teimlo’r Gwres. Mae SWALEC eisiau gallu helpu cartrefi i arbed arian ar eu biliau gwresogi fel nad oes neb yn byw mewn cartref oer; mae cefnogi cynllun gwobr Teimlo’r Gwres NEA Cymru yn un ffordd y gall SWALEC weld bod hyn yn digwydd.”   

SWALEC Logo

Fforymau Tlodi Tanwydd Gogledd a De Cymru

Mae NEA Cymru yn cynnal Fforymau Tlodi Tanwydd yng Ngogledd a De Cymru. Mae’r cyfarfodydd wedi’u hanelu at lunwyr polisi strategol, darparwyr gwasanaeth a grwpiau cymunedol yn ogystal ag unigolion sydd â diddordeb sydd eisiau cael gwared o dlodi tanwydd yn eu cymunedau.

Report back April 2008

Report back November 2007

Fforwm Tlodi Tanwydd De Cymru Tachwedd 12fed 2008 SWALEC Logo

Welsh Centre for International Affairs, Y Deml Heddwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3AP
Ffôn 029 2064 4520/ 07525 323405

Fforwm Tlodi Tanwydd Gogledd Cymru Tachwedd 19fed 2008Scottish Power Logo


Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol, FFordd Abaty, Llangollen, Sir Ddinbych LL20 8SW

Noddir gan SCOTTISH POWER

 

2007 DIGWYDDIADAU’R GORFFENNOL Twymo Lan: Gweithdai Gweithredu Ymgynghorol

4ydd Rhagfyr 2007 Llandrindod

Bu Jane Davidson, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai a Dr Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad BEVAN yn annerch y gweithdy ymgynghorol hwn.  Roedd y gweithdy’n helpu i ganfod y math o weithredu sydd ei angen ar lefel gymunedol er mwyn mynd i’r afael â thlodi tanwydd. 

Hyd yn hyn, gwelwyd cynnydd wrth ddatblygu Cynlluniau Gweithredu Cynhesrwydd Fforddiadwy yn y 22 ardal awdurdod lleol ar draws Cymru ac mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi cytuno neu’n agos at gytuno ar eu cynlluniau.  Fe helpodd y gweithdy ni i ganfod sut i adeiladu ar y cynnydd hwn trwy ystyried beth sy’n gweithio a beth arall sydd angen ei wneud wrth symud ymlaen o’r cam datblygu cynlluniau i gyflawni gweithredu sy’n helpu i wneud gwahaniaeth i aelwydydd mewn tlodi tanwydd.

Roedd y diwrnod yn cynnwys gweithdai cyfranogol wedi eu cynllunio i ganfod esiamplau o arfer da – y prosiectau, partneriaethau a strategaethau effeithiol – sy’n ddiamau’n bodoli yng Nghymru.  Gofynnwyd i gyfranogwyr hefyd ganfod pa gefnogaeth bellach sydd ei angen yn y dyfodol, a pha gyfleoedd sy’n bodoli i helpu troi cynlluniau’n weithredoedd.

Yn ystod y digwyddiad cafwyd gwybodaeth am ddatblygiad canllaw arfer da ar gyfer awdurdodau lleol a phartneriaid, sy’n cael ei ddatblygu gan NEA Cymru ar hyn o bryd. 

Gwybodaeth canllaw gweithredu i ddilyn yn Gwanwyn 2008.

Ymgyrch Cartrefi Cynnes –

Cychwynnodd yr Ymgyrch Cartrefi Cynnes (Wythnos Cartrefi Cynnes gynt) yn 1991 fel ffordd o godi ymwybyddiaeth ar lefel genedlaethol o effaith mawr tlodi tanwydd.  Nod yr ymgyrch yw hybu mwy o fuddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni er mwyn lleihau tlodi tanwydd a rhoi gwybod i’r cyhoedd bod help ar gael i aelwydydd incwm isel ar ffurf grant.

Un o amcanion allweddol yr ymgyrch yw addysgu Aelodau Seneddol (AS), Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (AC) ac eraill sy’n gwneud penderfyniadau ynglÅ·n â’r problemau iechyd sy’n cael eu creu o ganlyniad i fyw mewn cartrefi oer a thamp a’r buddiannau y gall cynyddu buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni ei olygu.

Yn ystod Tachwedd- Rhagfyr 2007 cymerodd 1 AS a 6 AC ran yn yr ymgyrch yng Nghymru a threfnwyd sawl digwyddiad yn ystod yr ymgyrch i ddwyn sylw’r cyhoedd at brosiectau blaengar ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol i helpu cael gwared â’r broblem o dlodi tanwydd.

Trefnwyd Ymgyrch Cartrefi Cynnes 2007 mewn cydweithrediad gyda eaga a chaiff gefnogaeth gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yng Nghymru a Lloegr.  Mae NEA yn cydnabod y gefnogaeth weithredol a gaiff gan y reolwyr cynlluniau Warm Front a HEES ac eaga wrth bennu’r cleientiaid a gafodd ymweliad gan yr AS ac AC.

  • Jane Davidson AC
  • Nick Ainger AS
  • Bethan Jenkins AC
  • Alun Cairns AC
  • Mick Bates AC - http://tinyurl.com/25qybe
  • Sandie Mewies AC
  • Dr Brian Gibbons AC

Yn ystod yr ymgyrch eleni enillodd Tîm Hawliau Lles Castell Nedd a Phort Talbot £500 gan NEA i drefnu digwyddiad gwneud y gorau o incwm ar gyfer teuluoedd gyda phlant- gwyliwch y gofod hwn ac efallai mai chi fydd nesaf! 

Trechu’r Oerfel: Gweithredu i gael gwared â thlodi tanwydd yng Nghymru.

Mae adroddiad ar ganfyddiadau cynhadledd National Energy Action Cymru, a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Marriot, Caerdydd ar y 27ain Mehefin 2007, ar gael i’w lawr lwytho.  Ymysg y siaradwyr allweddol oedd Ms Sugar (Cadeirydd Cyngor Defnyddwyr Cymru), Dr Rogers (Cyfarwyddwr GIG), Ms Whittaker (Cyfarwyddwr Tai yn Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol), Mr. Benfield (Prif Weithredwr CGGC)  a Mr. Dimblebee (Partner Ymrwymiad Swyddfa Archwilio Cymru).   

Mae’r adroddiad hwn yn darparu crynodeb byr o’r trafodaethau llawn ac yn cofnodi sylwedd y trafodaethau yn y gweithdai (a hwyluswyd gan aelodau o grwpiau pobl ifanc a rhwydweithiau pobl hÅ·n) sy’n pwysleisio’r meysydd ar gyfer gweithgaredd yn y dyfodol a syniadau ar gyfer gweithredu. Cliciwch yma

 

Welsh Dragon

AROLWG BYW YNG NGHYMRU

Ym mis Hydref 2007 cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei adroddiad Byw yng Nghymru, oedd yn cadarnhau ein hofnau gwaethaf.  O 2001-2006 mae prisiau cynyddol ynni wedi golygu bod y nifer o bobl yn byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru bron wedi dyblu i bron i chwarter miliwn o aelwydydd!

Edrychwch ar yr adroddiad llawn:

http://tinyurl.com/32nhqk

Am wybodaeth bellach - cysylltwch â Jane Edgington

Swyddog Hyfforddiant a Datblygiad
Telefon 07730519207   / 01490413223