Rhwydwaith gweithred Tlodi Tanwydd NEA Cymru
Ymunwch â’r 800 + o sefydliadau ac unigolion sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru!
Mae’r rhwydwaith am ddim ac yn agored i unrhyw un gyda diddordeb mewn cael gwared â thlodi tanwydd. Nod y rhwydwaith yw mynd i’r afael â thlodi tanwydd trwy gefnogi unigolion a sefydliadau, trwy rannu gwybodaeth a phrofiad a thrwy greu syniadau newydd a blaengar ar gyfer gweithredu. Rydym yn galluogi unigolion i ddarganfod mwy am sut i fod yn rhan o fentrau tlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni a phwy i gysylltu â nhw.
Mae’n ofod electronig ble cewch wybodaeth am fentrau newydd a diweddariadau polisi yn ogystal â ffordd i chi roi gwybod i eraill am y gwaith sy’n cael ei wneud ar draws Cymru.Cwblhewch y ffurflen hon a sicrhau bod gan Jane Edgington (Swyddog Hyfforddiant a Datblygiad NEA Cymru) eich manylion cyswllt yn llawn, Jane.Edgington@nea.org.uk
