TEIMLO R GWRES
Credyd i’r Gymuned
Mae Undeb Credyd Robert Owen (ROMCUL) wedi ennill y brif wobr yn y gystadleuaeth Teimlo’r Gwres – cynllun gwobrwyo a noddwyd gan SWALEC ac a gynhaliwyd gan yr elusen tlodi tanwydd amlwg yng Nghymru, NEA Cymru, a gefnogir gan Lywodraeth y Cynulliad.
Mae helpu pobl fregus i dalu eu biliau tanwydd yn wyneb cynnydd mewn prisiau ynni yn hanfodol dywedodd Jane Davidson, Gweinidog yr Amgylchedd, Cynaliadwyaeth a Thai wrth gynhadledd yng Ngwesty’r Royal yng Nghaerdydd ar ddydd Iau 26 Mehefin 2008 lle y datgelwyd enw’r enillydd.
Robert Owen Montgomeryshire Undeb Credyd - Gwobr 1af(£1500) - o'r chwith i'r dde Gill Williams, Jane Davidson AC, Rina Clarke
Derbyniodd ROMCUL £1500 a derbyniodd yr ail a’r trydydd £1000 a £500 fel ei gilydd.
Dywedodd Rina Clarke, Rheolwraig ROMCU: “Rydym wrth ein boddau gyda’r cyflwyniad hwn. Mae pobl yn ardal Sir Drefaldwyn ymysg y tlotaf yn y wlad gyda chyflogau isel, poblogaeth sydd yn heneiddio, canran uchel o eiddo hynafol, anodd i’w cynhesu a unigedd daearyddol, y cyfan yn cyfuno i greu amgylchedd lle y gall pobl deimlo dan warchae. Mae cynnydd mewn costau tanwydd yn gwaethygu’r broblem..
“Dyfeisiwyd y prosiect Monergy gan yr Undeb Credyd mewn partneriaeth gyda Chanolfan Cynghori Bro Ddyfi (BDAC) ac mae’n dwyn ynghyd cyngor ariannol ac ynni am y tro cyntaf yn ogystal â chymorth gyda chyllidebu a llythrennedd ariannol.
“Bydd y grant hwn yn galluogi rhagor o bobl i fod yn ymwybodol o’n gwasanaethau yn ogystal â chynnig cymorth ymarferol gyda materion unigol. Bydd yr holl fesurau hyn yn mynd cryn dipyn o’r ffordd tuag at fynd i’r afael â thlodi tanwydd sydd yn realaeth i lawer gormod o bobl yn y rhanbarth hwn.”
Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd, Cynaliadwyaeth a Thai, Jane Davidson AC: “Rwy’n hapus iawn i gefnogi’r Gwobrau Teimlo’r Gwres. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn benderfynol o wneud popeth y gallwn i’w wneud yn fwy fforddiadwy i bobl fregus ar incwm isel i gynhesu eu cartrefi yng Nghymru. Mae angen i ni weithio gyda phartneriaid i yrru hyn ymlaen a c mae cydnabod ymarfer da yn bwysig iawn.”
Mae’r UNDEB Credyd hefyd wedi dyfeisio gwasanaeth talu biliau. Mae’r traws gyfeirio rhwng ROMCUL a BDAC yn sicrhau bod y rhai sydd yn derbyn cyngor ar ddyledion a gwiriadau budd-daliadau yn derbyn cefnogaeth barhaus gan yr Undeb Credyd. Mae budd-daliadau neu gyflogau aelodau yn cael eu talu i’w cyfrif ROMCUL. Yna mae cyfrif cyllidebu yn cael ei sefydlu i dalu biliau a gall swm bychan fynd i ad-dalu benthyciad ac ychwanegu at eu cyfranddaliadau, tra bod y gweddill yn cael ei roi mewn cyfrif banc sylfaenol gyda banc Stryd Fawr a gellir cael gafael ar yr arian hwn trwy beiriant ATM.
Dywedodd Nuria Zolle, Cyfarwyddwraig NEA Cymru: “Mae tlodi tanwydd yn y DU, yn cynnwys Cymru, wedi cynyddu yn frawychus dros y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf oherwydd cynnydd mewn prisiau tanwydd ac mae’r cynllun gwobrwyo hwn yn ddull newydd o helpu pobl i ymdopi â hynny.
“Rydym yn diolch i’r holl gyfranogwyr a gobeithio y bydd eu gwaith yn parhau i gefnogi’r bregus yn eu cymunedau.
“Bydd y cyllid ychwanegol yn cefnogi gweithredu i adeiladu ar waith sydd eisoes yn bodoli ac yn buddsoddi ar atebion arloesol sydd yn helpu i fynd i’r afael â’r materion sydd o bwys mwyaf i’w cymunedau. Mae asiantaethau lleol ar flaen y gad gyda’r gwaith o ddarparu cynhesrwydd fforddiadwy i deuluoedd bregus ac mae’r wobr hon yn gymorth i’r asiantaethau hynny. Rydym yn ddiolchgar i SWALEC a Llywodraeth y Cynulliad am gefnogi’r cynllun gwobrwyo hwn.”
Dywedodd Andrew Lloyd, rheolwr Prosiect Effeithlonrwydd Ynni, SWALEC: “Rydym yn hynod o falch o allu cefnogi NEA gyda’u fforwm a gyda’r cynllun gwobrwyo Teimlo’r Gwres. Mae SWALEC eisiau gallu helpu teuluoedd i arbed arian ar eu biliau gwresogi fel nad oes neb yn byw mewn cartref oer; mae cefnogi cynllun gwobrwyo Teimlo’r Gwres NEA Cymru yn un ffordd y gall SWALEC weld bod hyn yn digwydd.”
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
1/ NEA yw’r prif elusen tlodi tanwydd sydd yn ymgyrchu dros gynhesrwydd fforddiadwy yng nghartrefi pobl fregus. Ewch i www.nea.org.uk Mae tlodi tanwydd yn cael ei ddiffinio fel yr angen i wario dros 10% o incwm y cartref ar gostau tanwydd i gynnal cynhesrwydd digonol ar gyfer iechyd a chyfforddusrwydd.
2/ Mae SWALEC yn rhan o’r Scottish and Southern Energy Group (SSE). Mae SWALEC yn darparu nwy a thrydan i gwsmeriaid busnes a domestig.
Am ymholiadau cyfryngau cysylltwch â Richard Archer ar 0191 2615677
Supported by


